Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Golwg ar y celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts in Wales and beyond.

Mae Nia Roberts yn cael cwmni’r dramodydd Dafydd James, er mwyn edrych ymlaen at ei ddrama newydd Tylwyth, sydd yn cael ei pherfformio ar daith gan y Theatr Genedlathol yn y flwyddyn newydd. Mae’r ddrama yn ddilyniant i Llwyth, y ddrama a fu’n lwyddiant ysgubol pan y perfformwyd hi ddegawd yn ôl.

Tirwedd ei milltir sgwâr sy’n ysbrydoli’r artist Eleri Mills, ac mewn arddangosfa arbennig yn Oriel Davies, y Drenewydd, mae cynnyrch degawd o’i gwaith i’w weld. Wrth grwydro o amgylch yr arddangosfa, mae’r artist yn egluro wrth Nia ei bod yn parhau i ddarganfod ysbrydoliaeth yn nhir mwyn Maldwyn, er iddi deithio’r byd.

Hefyd mae Catrin Beard yn cael cwmni Ion Thomas a Bethan Jones Parry er mwyn trin a thrafod dwy gyfrol newydd, sef Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds ac Y Bwrdd gan Iwan Rhys.

58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 2 Rhag 2019 18:00

Darllediad

  • Llun 2 Rhag 2019 18:00