Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ѿý iPlayer Radio ar hyn o bryd

Y Ddrama 'Carwyn', Agatha Christie a Beatrix Potter

Trafod beth sy'n dderbyniol mewn comedi, apêl gwaith Agatha Christie, a nofel sy'n adrodd stori o safbwynt ci defaid Cymreig. A look at the arts in Wales and beyond.

Yn ddiweddar bu ymateb chwyrn i ddeunydd y comedïwr Jimmy Carr, ac felly mae Nia Roberts yn holi Gary Slaymaker am beth sy’n dderbyniol ac yn annerbyniol ar lwyfan comedi.

Mae Catrin Beard yn sgwrsio efo Bethan Gwanas am ei nofel ddiweddaraf ac am sut mae'n dweud stori o safbwynt ci defaid Cymreig, tra bod Meg Elis yn dadansoddi apêl ddiddiwedd addasiadau o waith Agatha Christie.

Dyfrig Davies sy'n adolygu’r ddrama “Carwyn” ac mae Elinor Gwynn yn trafod ei hargraffiadau hi o arddangosfa fawr newydd yn seiliedig ar fywyd a gwaith Beatrix Potter ac sydd newydd agor yn amgueddfa’r V&A yn Llundain.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 21 Chwef 2022 21:00

Darllediad

  • Llun 21 Chwef 2022 21:00