Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Llyfr Y Flwyddyn, Shirley Valentine a Pegi Talfryn

Beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2022, ymarferion Shirley Valentine, llenyddiaeth i ddysgwyr a'r Clwb Darllen.
Welsh Book of the Year, Shirley Valentine, literature for Welsh learners.

Mae deng mlynedd wedi pasio ers i "Y Storïwr" ennill Llyfr y Flwyddyn ac mae'r awdur Jon Gower yn ymuno efo Catrin Beard a'r darllenwyr Dorian Morgan a Miriam Elin Jones i drafod y gyfrol yn y Clwb Darllen.

Shelley Rees sy'n serennu mewn cynhyrchiad newydd o addasiad Manon Eames o'r clasur "Shirley Valentine", ac mae Nia'n ymweld efo'r stafell ymarfer er mwyn clywed am yr her o bortreadu cymeriad mor eiconig.

Mae Gŵyl Amdani yn dathlu llenyddiaeth Gymraeg i ddysgwyr, ac mae Pegi Talfryn yn sgwrsio am baratoi deunydd ar gyfer darllenwyr newydd. A gan edrych ymlaen at gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2022, fydd i'w chlywed ar Radio Cymru ym mis Gorffennaf, mae Branwen Llewellyn o Llenyddiaeth Cymru yn datgelu pwy yw'r beirniaid eleni.

1 awr

Darllediad diwethaf

Llun 28 Chwef 2022 21:00

Darllediad

  • Llun 28 Chwef 2022 21:00