
Godro defaid yn Nyffryn Aeron
Terwyn Davies â hanes Gwern Thomas o Geredigion sydd newydd ddechrau godro defaid. Terwyn Davies hears from Gwern Thomas from Ceredigion, who has started milking sheep.
Terwyn Davies â hanes Gwern Thomas o Geredigion sydd newydd ddechrau godro defaid yn Nyffryn Aeron, ar y cyd â'i bartner busnes, Rhun Fychan.
PC Dewi Evans o Heddlu Gogledd Cymru sy'n sôn am y cynnydd mewn ymosodiadau ar anifeiliaid fferm gan gŵn, a Wil Williams o Aberdaron sy'n sgwrsio am golli defaid oherwydd ymosodiad gan gŵn yn ddiweddar.
Hanes Deion Jones o gwmni Aber Falls ger Abergwyngregyn, a sut y mae'r cwmni'n cydweithio gyda ffermwyr lleol i gynhyrchu eu whisgi newydd.
Richard Davies sy'n crynhoi'r newyddion o'r sector laeth a pherchennog cwmni Llaeth Preseli o Sir Benfro, Angharad Edwards, sy'n adolygu'r wasg amaethyddol.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 5 Meh 2022 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Llun 6 Meh 2022 21:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2