Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Caws ac iogwrt wedi'u gwneud o laeth dafad

Clywn stori Carrie Rimes sy’n cynhyrchu caws ac iogwrt gan ddefnyddio llaeth defaid. We hear the story of Carrie Rimes who produces cheese and yoghurt using sheep's milk.

Cawn gyngor gan y meddyg Dr Eilir Hughes am sut i gadw’n ddiogel yn yr haul a rhybudd gan y ffermwr Brian Richards sydd wedi profi effeithiau negyddol yr haul ar ei groen.
Clywn stori Carrie Rimes o gwmni Cosyn Cymru, Ddyffryn Ogwen sy’n cynhyrchu caws ac iogwrt gan ddefnyddio llaeth defaid.
Hefin Wyn sy’n trafod hanes dechrau gwrthryfel Merched Beca wrth iddo lansio ei lyfr newydd am Twm Carnabwth.
Llŷr Griffiths-Davies sydd â rhagolygon y tywydd am yr wythnos nesaf.
Dr Ellen Evans, Cymrawd Ymchwil gyda Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE Prifysgol Metropolitan Caerdydd sy’n adolygu straeon amaethyddol o’r wasg a’r cyfryngau cymdeithasol.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 13 Meh 2022 18:00

Darllediadau

  • Sul 12 Meh 2022 07:00
  • Llun 13 Meh 2022 18:00