Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the Ceredigion National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a'i westeion yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.

Cystadleuaeth Y Goron ydy prif seremoni lenyddol y dydd heddiw ac mae Iwan yn cael cwmni y tri beirniaid Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Williams.

Rhiannon Lewis sydd yn sylwebu ar uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Nia Clwyd yng ngofal y canu gwerin a cherdd dant.

Ac yn trafod a oes digon o amrywiaeth yn ein llenyddiaeth mae Gareth Evans-Jones, Jane Aaron ac Elgan Rhys.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 1 Awst 2022 18:00

Darllediad

  • Llun 1 Awst 2022 18:00