Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the Ceredigion National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a'i westeion sy'n edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.

Gowbr Goffa Daniel Owen ydy prif seremoni lenyddol y dydd ac mae Iwan yn cael cwmni y beirniaid, sef Manon Steffan Ross a Ioan Kidd.

Rhiannon Lewis sydd yn ngofal uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Nia Clwyd yng ngofal y canu gwerin a cherdd dant.

Beth ydy'r grefft o arwain eisteddfod tybed? Betsan Powys, Nest Jenkins a Nic Parri sy'n trafod, tra bod Cledwyn Ashford yn hel atgofion am flynyddoedd o wirfoddoli yn yr Eisteddfod.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Maw 2 Awst 2022 18:00

Darllediad

  • Maw 2 Awst 2022 18:00