Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the Ceredigion National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a'i westeion yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.

Y Fedal Ddrama yw prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ac mae Iwan yn cael cwmni'r beirniaid Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams.

Rhiannon Lewis sy'n trafod uchafbwyntiau cerddorol y dydd, tra bod Nia Clwyd yng ngofal y canu gwerin a'r cerdd dant; Karen Owen sy'n dathlu cyfraniad merched i'r byd canu caeth; ac Elen Ifan syn' cadw golwg ar ddigwyddiadau yn y Babell Lên a Llwyfan y Llannerch.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 4 Awst 2022 18:00

Darllediad

  • Iau 4 Awst 2022 18:00