Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Iwan Griffiths a'i westeion yn trafod uchafbwyntiau a straeon y dydd o'r Brifwyl. Iwan Griffiths and guests discuss the day's events at the Ceredigion National Eisteddfod.

Iwan Griffiths a'i westeion yn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau’r dydd o faes Eisteddfod Ceredigion 2022, gan gynnwys y sgwrs gyntaf gyda'r prif enillwyr llenyddol a’r beirniaid; uchafbwyntiau cystadlu’r dydd; y newyddion o’r maes a thrafodaethau am gerdd dant, canu gwerin, llefaru a llawer mwy.

Prif gystadleuaeth lenyddol y dydd ydy seremnoni'r cadeirio ac mae Iwan yn cael cwmni'r beirniaid Twm Morys, Emyr Lewis ac Idris Reynolds.

Rhiannon Lewis a Bethan Bryn sydd yng ngofal uchafbwyntiau cystadleuthau cerddorol, canu gwerin a cherdd dant y pafiliwn.

Mae Iwan hefyd yn sgwrsio gyda Prif Weinidog, Mark Drakeford ar ddiwrnod ei urdd i'r Orsedd, tra bod Christine James, Beti Wyn James a Cefin Roberts yn trafod perthynas yr Orsedd gyda'r Eisteddfod.

Ac yna i gloi, bydd Elin Jones, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ceredigion 2022, yn edrych yn nôl ar wythnos yn Nhregaron wrth iddi drosglwyddo'r awenau i Michael Strain, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

1 awr, 58 o funudau

Darllediad diwethaf

Gwen 5 Awst 2022 18:00

Rhagor o benodau

Nesaf

Yn dod yn fuan

Gweld holl benodau Eisteddfod Genedlaethol 2022

Darllediad

  • Gwen 5 Awst 2022 18:00