Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Diwedd Cyfnod i Glyn Roberts

Glyn Roberts sy'n hel atgofion ar ddiwedd ei gyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru. Glyn Roberts reminisces as his Presidency of the Farmers Union of Wales comes to an end.

Glyn Roberts sy'n edrych nôl dros ei yrfa wrth i'w gyfnod fel Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru ddirwyn i ben.

Gyda'r tymor cneifio yn ei anterth, cawn glywed ambell i atgof cneifio gan arbenigwr yn y maes, John Till, o'r ffordd ddechreuodd gneifio i'r ffordd mae'r broses wedi newid dros y blynyddoedd.

Mewn ymgais i gyflenwi'r cyhoedd ag wyau ffres, sgwrs gyda Meryl Edkins o Gwmni Wyau Edkins yng Nghilcennin, Ceredigion sy'n agor cwt yng nghanol Aberystwyth lle bydd modd i gwsmeriaid brynu wyau 24 awr y dydd.

Robin Owain Jones sydd â'r rhagolygon tywydd am y mis i ddod; a chadeirydd Bwrdd Materion Gwledig CFFI Cymru, Dewi Davies sy'n adolygu'r straeon amaethyddol sydd wedi bod yn y wasg yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 25 Meh 2023 07:00

Darllediad

  • Sul 25 Meh 2023 07:00