Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen arbennig ar ffermio cynaliadwy yng Nghymru. Terwyn Davies presents a special programme on sustainable farming in Wales.

Terwyn Davies sy'n cyflwyno rhaglen arbennig ar agweddau o ffermio cynaliadwy yng Nghymru.

Non Williams o Gyswllt Ffermio sy'n egluro beth yw ffermio cynaliadwy, ac yn sôn am gynlluniau amgylcheddol sy'n bodoli eisoes.

Hefyd, cyfle i glywed am gynllun gan Brifysgol Cymru Aberystwyth pan y gallai slyri gwartheg a phlanhigyn Llinad y Dŵr neu 'duckweed' fod yn broffidiol i ffermwyr. Dr Dylan Gwynn Jones sy'n egluro mwy.

Elen Parry, Rheolwr Prosiect Gwnaed â Gwlan Menter Môn sy'n trafod eu cynllun nhw sy'n golygu bod gwlân yn cael ei ddefnyddio yn lle plastig fel sylfaen ar gyfer llwybrau cerdded ar yr ynys.

A James Raw o Gwm Ystwyth yng Ngheredigion sy'n sôn am y cynllun amgylcheddol y mae wedi cyflwyno i'w fferm, gyda dŵr yn ganolog i'r cyfan.

27 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 10 Medi 2023 07:00

Darllediadau

  • Sul 2 Gorff 2023 07:00
  • Sul 10 Medi 2023 07:00