 
                
                        Rhestr Fer Gwobr Gerdddoriaeth Gymreig 2023
Sylw i restr fer Gwobr Gerdddoriaeth Gymreig 2023, cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Bara Caws a llawer mwy. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni y newyddiadurwr cerddoriaeth Tegwen Bruce-Deans sydd yn datgelu pa artistiaid sydd wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Gerdddoriaeth Gymreig 2023, tra bod Menai Pitts yn adolygu cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Bara Caws, sef 'Ffenast Siop.'
Mae Ffion yn teithio i Langadfan ym Mhowys lle mae'n cael hanes prosiect celfyddyol unigryw yr artist rhyngwladol Eleri Mills, y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb a'r grŵp gwerin Vri.
Yn galw mewn hefyd mae'r actor Johnny Johnson â hanes ffilm mae o wedi ymddangos ynddi yn ddiweddar sef 'Lady Bigfoot', tra bod Lowri Palfrey yn sgwrsio am yr ymateb mae ei ffilm Hêri wedi ei gael mewn gwyliau ffilmiau yn ddiweddar.
Codau amser:
00:05.57 Yr artist Eleri Millis
00:22.00 Y cerddor a'r cyfansoddwr Sioned Webb
00:45.02 Menai Pitts ac adolygiad o ddrama 'Ffenast Siop' 
01:03.51 Rhestr Fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2023
01:26.56 Y grŵp gwerin 'Vri'
01:43:18 Lowri Palfrey a hanes ei ffilm 'Hêri'
01:45.53 Yr actor Jimmy Johnson a'r ffilm 'Lady Bigfoot'
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Siân James & Sioned WebbSantiana Deuawd Piano (Cwt Cerdd Gwerin) 
- 
    ![]()  Overture & PejacavicOverture - Dora Pejacevic 
- 
    ![]()  The Gentle GoodBeth yw'r haf i mi - Galargan.
- Bubblewrap Collective.
- 7.
 
- 
    ![]()  PluÔl Dy Droed - TIR A GOLAU.
- SBRIGYN YMBORTH.
- 5.
 
- 
    ![]()  Angel HotelTorra Fy Ngwallt Yn Hir 
- 
    ![]()  YnysTro Olaf 
- 
    ![]()  Faerie Bride & Gavin HigginsFaerie Bride - Gavin Higgins 
- 
    ![]()  ³Õ¸éïY Gaseg Ddu (Byw yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023) 
- 
    ![]()  Angharad RhiannonFy Hoff Atgof I - Dim Clem.
 
- 
    ![]()  ³§Åµ²Ô²¹³¾¾±Uno, Cydio, Tanio - Recordiau Côsh Records.
 
Darllediad
- Sul 10 Medi 2023 14:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru 2 & ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
