 
                
                        Adolygiad o'r ddrama 'Fleabag'
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y ddrama Fleabag, taith y band jazz Khamira ac arddangosfa Emrys Parry. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Yn y rhaglen heddiw mae Ffion yn cael cwmni'r cerddor jazz Tomos Williams â hanes taith ddiweddara'r band jazz/gwerin 'Khamira' o gwmpas Cymru.
Wrth i gynhyrchiad Theatr Clwyd ac addasiad Branwen Davies o ddrama Phoebe Waller-Bridge, 'Fleabag' ddirwyn tua'i therfyn, mae Buddug Watcyn Roberts yn galw heibio i adolygu'r ddrama.
Ymweliad ag Oriel Plas Glyn-y-Weddw yn Llanbedrog ac arddangosfa yr artist Emrys Parry, yn wreiddiol o Nefyn, ond bellach yn byw yn Great Yarmouth sydd yn mynd â bryd Elinor Gwynn.
Ac yna, i gloi cawn glywed am waith diweddar y cyfarwyddwr theatrig a'r cerddor Izzy Rabey.
Codau Amser:
00:06:29 Tomos Williams - taith 'Khamira' 
00:22:13 Ymweliad â set cyfres ddrama newydd S4C
00:45:37 Adolygiad addasiad Cymraeg 'Fleabag' 
01:04:00 Arddangosfa Emrys Parry ym Mhlas-Glyn-y-Weddw 
01:18:15 Sgwrs gydag Emrys Parry
01:42:54 Sgwrs gydag Izzey Rabey
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Cerddoriaeth a chwaraewyd
- 
    ![]()  Piano Concerto - No 3, Sergey Prokofiev, Isata Kanneh‐Mason, ѿý National Orchestra of Wales & Ryan BancroftPiano Concerto No 3 - Prokofiev - ѿý NOW 
- 
    ![]()  FaraBilly's (Live Celtic Connections) 
- 
    ![]()  Pwdin ReisDawnsio Dangeris - Noson Arall Mewn.
- Recordiau Reis.
- 10.
 
- 
    ![]()  Le Creation du Monde, Darius Milhaud, ѿý National Orchestra of Wales & François‐Xavier RothLe Creation du Monde - Darius Milhaud - ѿý NOW 
- 
    ![]()  Mugenkyo Taiko DrummersCân 1 - Mugenkyo Taiko Drummers 
- 
    ![]()  TenebraeAve Maria - Allegri Miserere.
- Signum Records.
- 7.
 
- 
    ![]()  Izzy RabeyGwaed 
- 
    ![]()  Gwilymteimlo'n well - Recordiau Côsh.
 
Darllediad
- Sul 17 Medi 2023 14:00ѿý Radio Cymru & ѿý Radio Cymru 2
