
23/02/2025
Cyfres yn edrych ar ddarganfyddiadau diweddaraf y byd gwyddonol. A series looking at the latest developments and findings in the world of science.
Rhaglen am sut mae ein yfory newydd yn dibynnu ar wybod mwy am ddoe.
Mae Yr Athro Siwan Davies yn rhan o dîm sydd newydd ganfod iâ hynaf y blaned, ac mae ei gwaith ar lwch folcanig miliwn o flynyddoedd yn ôl yn arwain y ffordd at wybod mwy am sut newid hinsawdd i ddisgwyl heddiw.
Mae Siriol Griffiths yn pori drwy wasg wyddonol y Conversation ac yn canfod mai meddygon ar longau a ddatblygodd offer llawdriniaeth heddiw, ac yn clywed am sut mae darganfod llongddrylliadau o gwmpas arfordir y gogledd.
Athro Gareth Ffowc sydd yn sôn am ei arwr - y mathemategydd Robert Recorde - yr un nath lunio symbol hafal.
Ac i gloi, sut mae sicrhau nad yw pobl ddall yn cael eu gadael ar ôl wrth i dechnoleg cyfrifiadurol wella - yn enwedig mewn llyfrau Cymraeg. Byddwn yn ymweld â Jaden yn Ysgol Gyfun Gwynllyw.
Darllediad diwethaf
Darllediad
- Sul 23 Chwef 2025 16:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru