Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

15/06/2025

Elinor Gwynn a Carwyn Graves sy’n sgwrsio am erddi cymunedol, gofalu am berllannau, fforio a piclo! Stories about community gardens, plum orchards, pickling and foraging.

Elinor Gwynn sy’n ymweld â pherllan hanesyddol yng nghanol tre Dinbych i glywed am eirin ryfeddol yr ardal gyda Nia Cyril Williams - eirin sydd â'r dynodiad Ewropeaidd PDO.

Mae Carwyn Graves yn clywed am yr holl waith, y mwynhau a'r prysurdeb cymunedol yn Yr Ardd yn Llandysul ac yn edmygu'r ardd gynhyrchiol sydd wedi ei datblygu yno. I barhau â'r thema garddio cymunedol mae Carwyn yn ymweld hefyd â Gerddi Bydeang yn ardal Gabalfa o'r brif ddinas yng nghwmni Eirlys Rhiannon ac yn clywed am y prydau bwyd rhyfeddol a weinir yno i'r gymuned yn ogystal â gwersi Cymraeg wrth arddio a'r croeso sydd yno i bobl o bedwar ban byd.

Mae Elinor hefyd yn ymweld â gardd gymunedol sef Colli'r Plot yn Yr Orsaf Penygroes yng nghwmni Trey McCain sy'n gwybod o brofiad bod tyfu tomatos yn haws yn Mississipi nag yn Dyffryn Nantlle ond mae mwy o hwyl i'w gael yn plot garddio'r plant ym Mhenygroes!

Sion Griffiths, sy'n arwain y prosiect Gwyrddni, sy'n rhoi hanes prosiectau garddio cymunedol yn ogystal â gwaith garddio gydag ysgolion a chymunedau'r gogledd; Bethan Mair Williams sy'n mynd ag Elinor ar wibdaith casglu garlleg gwyllt a chreu pesto; ac Ifor ap Glyn sy'n trafod yr hyn mae wedi ei ddysgu am rewgelloedd a'u heffaith ar fwyd a bwyta ledled y byd diolch i un adolygiad llyfr.

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 15 Meh 2025 16:00

Darllediad

  • Sul 15 Meh 2025 16:00