Main content

22/06/2025

Elinor Gwynn a Carwyn Graves sy'n trafod gwahanol fathau o gwmniau sy'n tyfu'n bwydydd ni!
Stories about different kinds of businesses, co-ops, etc that grow our foods.

Elinor Gwynn sy’n ymweld â fferm Pentrefelin yn Llandyrnog ac yn gweld buches odro lle mae'r lloi yn aros gyda'u mamau, lle mae hwyaid yn gwrteithio perllan a lle mae modd i'r cyhoedd fynd i ddysgu sut i compostio a mwy!

Mae Carwyn Graves yn ymweld â fferm Parc yr Arglwydd ger Llansteffan ac yn clywed am gynllun ffermio yn seiliedig ar Amaethyddiaeth a Gefnogir gan y Gymuned a lle mae Abel a'i deulu yn croesawu'r gymuned i mewn i fod yn rhan o'r ffarm. Wedyn i Blaencamel ger Ciliau Aeron, Ceredigion - ysbrydoliaeth i Carwyn a model y gellid eu adgynhyrchu ar draws Cymru er mwyn cynhyrchu llysiau a ffrwythau o safon uchel, tymhorol, i Gymru gyfan.

Ar ôl blasu mefus Blaencamel mae Carwyn yn teithio i'r Gŵyr ac i Benclawdd i glywed am ddyfodol casglu cocos ar foryd y Burry ac yn trafod a yw'r cocos yn dal yn fwyd cyffredin neu'n rhywbeth i ymwelwyr yn unig. Tra bod Carwyn yn Penclawdd mae Elinor yn ymweld â Tyddyn Teg sef ffarm gydweithredol sy'n cynnal 14 o swyddi, sy'n codi llysiau ar gyfer y siop a'r bocsys llysiau, yn datblygu maes gwersylla ac yn pobi'n ddyddiol.

Ac i gloi mae'r ddau yn ymweld â gardd furiog Llanerchaeron er mwyn gweld y rhandiroedd newydd a'r ardd lysiau gynhyrchiol ac i drafod beth yw'r modelau cynhyrchu i Gymru'r dyfodol.

6 o ddyddiau ar ôl i wrando

28 o funudau

Darllediad diwethaf

Sul 29 Meh 2025 08:30

Darllediadau

  • Sul 22 Meh 2025 16:00
  • Sul 29 Meh 2025 08:30