Main content

Leisa Mererid

Beti George yn holi Leisa Mererid, actores a hyfforddwraig yoga. Beti George interviews Leisa Mererid.

Beti George sydd yn holi'r actores a'r hyfforddwraig yoga Leisa Mererid.

Mae'n disgrifio ei phlentyntod fel hogan fferm ym mhentref Betws Gwerfyl Goch fel un 'eidylig' ac roedd yn treulio ei hamser sbâr i gyd allan yn chwarae.

Astudiodd Ddrama yn Ysgol Theatr Fetropolitan Manceinion lle enillodd radd mewn actio, cyn hyfforddi ymhellach yn Ysgol Ryngwladol Meim, Theatr a Symudiad Jacques LeCoq ym Mharis.

Bu'n byw yn Lesotho am gyfnod yn gwirfoddoli mewn cartref i blant amddifad .Roedd yn aros mewn pentref bach yng nghanol unman yn y mynyddoedd. Dywed fod y profiad yma yn bendant wedi ei siapio hi fel person.

Mae Leisa wedi gweithio’n helaeth ym maes Theatr a theledu. Ymddangosodd yn chwe chyfres Amdani. Yn 2002 chwaraeodd rôl Edith yn y ffilm Eldra. Yn 2002 hefyd cychywnodd ei rhan fel Joyce Jones yn y gyfres ddrama Tipyn o Stad.

Bu'n gweithio hefyd gyda chwmni theatr Oily Cart, cwmni sydd yn arloesi mewn gweithio yn aml synhwyrol. Ma’ nhw yn cyfeirio at eu hunain fel pob math o theatr ar gyfer pob math o bobl. Maen nhw yn gweithio efo babanod, plant, a phobl efo anghenion dwys.

Mae Leisa wedi rhyddhau dau lyfr i blant, Y Goeden Yoga yn 2019 a'r Wariar Bach yn 2021.

Erbyn hyn, mae Leisa hefyd wedi cychwyn ei busnes ‘Gongoneddus’ – sydd yn cynnal sesiynau trochfa gong.

Mae hi'n Fam brysur ac yn magu 3 o blant, Martha, Mabon ac Efan.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 17 Gorff 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Brodyr

    Draws Donnau

    • Draws Donnau.
    • Sain (Recordiau) Cyf..
    • 2.
  • µþÂáö°ù°ì

    Bachelorette

    • ONE LITTLE INDIAN.
  • Jacques Brel

    Ne me quitte Pas

    • Jacques Brel.
    • Vintage Music.
    • 1.
  • Cian Ciaran

    Cuddio

    • Rhys a Meinir.
    • Strangetown Records.
    • 15.

Darllediadau

  • Sul 13 Gorff 2025 15:00
  • Iau 17 Gorff 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad