Main content

Gethin Evans

Beti George yn holi Gethin Evans, cerddor a chyflwynydd, sydd hefyd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd. Beti George interviews Gethin Evans, presenter and comedian.

Gwestai Beti George yw Gethin Evans, mae'n ddigrifwr stand-up, mae ei lais yn gyfarwydd i ni ar Radio Cymru, yn cyflwyno gigs comedi ac yn aelod o Fand Pres Llanreggub, ac mae'n dad i ddau o blant.

Ond mae ei waith bob dydd yn heriol, mae'n gweithio llawn amser i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn ymwneud â digido holl fanylion y gwasanaeth iechyd meddwl.

Daw yn wreiddiol o Dremadog, ac fe aeth o i Ysgol Gynradd Eifion Wyn - Porthmadog ac wedyn yn ei flaen i Ysgol Eifionydd. Bu'n gweithio gydag elusen Gisda, a bu'n gweithio gyda Community Music Wales. Cawn hanesion difyr ei fywyd ac mae'n dewis 4 cân yn cynnwys Anweledig a MC Mabon.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 3 Gorff 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • John Lennon

    Imagine

    • John Lennon - Lennon Legend.
    • Parlophone.
  • Anweledig

    Fan Hyn

    • Sombreros yn y Glaw.
    • Crai.
    • 10.
  • MC Mabon

    Neith Y Byd Ddim Para Am Byth

    • Ankstmusik.
  • Hot 8 Brass Band

    Sexual Healing

    • Sexual Healing.
    • Tru Thoughts.
    • 1.

Darllediadau

  • Sul 29 Meh 2025 18:00
  • Iau 3 Gorff 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad