Main content

Manon Awst

Beti George yn holi yr artist Manon Awst. Beti George chats to the artist, Manon Awst.

Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai.

Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar ѿý Radio Cymru.
Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys.
Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys un gan Jean Michel Jarre.

Ar gael nawr

49 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 26 Meh 2025 18:00

Cerddoriaeth a chwaraewyd

  • Jean‐Michel Jarre

    Oxygene, Pt. 4

    • Oxygene Trilogy.
    • Sony Music Catalog.
    • 4.
  • Nena

    99 Luftballons (Remastered 2024)

  • Mary Hopkin

    Aderyn Pur

  • Lord of the Isles & Ellen Renton

    Passing

    • Whities 029.
    • AD 93.
    • 3.

Darllediadau

  • Sul 22 Meh 2025 18:00
  • Iau 26 Meh 2025 18:00

Archif Beti a'i Phobol

Lawrlwythwch rhaglenni Beti a'i Phobol o'r archif.

Podlediad