ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,22 Jun 2025,48 mins

Manon Awst

Beti a'i Phobol

Available for over a year

Yr artist Manon Awst yw gwestai Beti George. Mae hi'n arbenigo mewn celf gyhoeddus ac yn gwneud cerfluniau, gosodiadau a pherfformiadau sy'n archwilio themâu lle, hunaniaeth a thirwedd. Mae ei gwaith diweddar yn ymwneud â chorsydd a mawndiroedd. Fe gafodd wobr i artistiaid gan yr Henry Moore Foundation (2022-23) a Chymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol (2023-2025) fel rhan o raglen Natur Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru. Magwyd Manon ar Ynys Môn gan fynychu Ysgol Uwchradd Bodedern ac aeth ymlaen i astudio Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Caergrawnt. Bu'n byw ym Merlin am sawl blwyddyn, ac mae ganddi ddarn o waith celf gyhoeddus yn y ddinas sydd wedi ei wneud allan o gregyn gleision o'r Fenai. Mae hi hefyd yn cael ei hadnabod fel bardd ac yn aelod o'r grŵp Cywion Cranogwen ac yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiadau fel Y Talwrn ac Ymryson y Beirdd ar ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru. Yn fam i ddau o fechgyn, Emil a Macsen ac yn briod gydag Iwan Rhys. Cawn hanes difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis 4 cân gan gynnwys un gan Jean Michel Jarre.

Programme Website
More episodes