
Sioe Llanbed 2025
Terwyn Davies sydd ag adroddiad o Sioe Llanbedr-Pont-Steffan gynhaliwyd yn ddiweddar. Terwyn Davies reports from the Lampeter Agricultural Show held recently.
Terwyn Davies sydd ag adroddiad o Sioe Amaethyddol Llanbedr-Pont-Steffan gynhaliwyd yn ddiweddar ar gyrion y dref. Sgyrsiau gyda swyddogion, beirniaid a chystadleuwyr yn y sioe.
Megan Williams sydd yn nathliadau cwmni cydweithredol Calon Wen wrth iddyn nhw ddathlu chwarter canrif o fodolaeth, ac i nodi'r achlysur maen nhw'n ail-frandio llawer iawn o'u cynnyrch.
Y cneifiwr o Dywyn, Meirionnydd Huw Jones sy'n sgwrsio am dorri record Brydeinig yn ddiweddar, drwy gneifio 663 o ddefaid mewn wyth awr.
Awel Mai Hughes sydd â'r newyddion diweddaraf am y grantiau, polisiau a chyfreithiau amaethyddol, a Delyth Robinson o Flaenwaun yn Sir Benfro sy'n adolygu'r wasg.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediad
- Sul 13 Gorff 2025 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru