
Edrych ymlaen at y Sioe Fawr
Terwyn Davies sy'n edrych ymlaen at Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd. Terwyn Davies looks forward to this year's Royal Welsh Show in Llanelwedd.
Terwyn Davies sy'n edrych ymlaen at wythnos Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Sgwrs gyda Llysgennad y Sioe eleni, Rhys Griffith o Benisaurwaun ger Caernarfon, sy'n cadw ceffylau gwedd ac sydd eleni wedi llwyddo i sefydlu Pentref Ceffylau Gwedd ar faes y sioe.
Hefyd, Eleri James o Ledrod, Ceredigion sy'n sôn am fod rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru eleni. Mae'n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnos.
Kit Ellis o Lwyndyrus ger Pwllheli yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Apêl Sir Nawdd Caernarfon eleni, ac mae'n hel atgofion am ymweld â phob sioe ers yn ferch ifanc.
Y tywydd ar gyfer yr wythnos gyda Megan Williams, a Phrif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Aled Rhys Jones, sy'n sôn am uchafbwyntiau'r sioe eleni.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediadau
- Sul 20 Gorff 2025 07:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Sul 20 Gorff 2025 15:30ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru