
Cornel Comedi gyda Mel Owen
Mae Mel Owen yn cynnal sgyrsiau gyda'r digrifwyr mwyaf cyffrous mewn comedi Cymru. Mel Owen hosts conversations with the most exciting comedians in Welsh comedy.
O Lundain, i Efrog Newydd, i Los Angeles, i Gaeredin, mae'r digrifwraig Mel Owen wedi teithio'n eang i berfformio comedi, ond nawr ma' hi am ddod adre i ymchwilio beth yn gwmws sy'n gwneud comedi Cymraeg mor arbennig. Beth sy'n wirioneddol ysgogi pobl i gymryd y meic? Trwy siarad ag amrywiaeth o ddigrifwyr, yng Nghymru ac ar draws y ffin, bydd Mel yn ceisio i ddarganfod eu cymhellion a hefyd archwilio beth sy'n gwneud y sîn gomedi Cymraeg mor unigryw ac arbennig.
O gomedi drag a chwîr, i'r heriau a'r llwyddiannau o berfformio stand-yp yn y Gymraeg fel ail iaith, mae Cornel Comedi yn plymio'n ddwfn i gynrychiolaeth a rhannu amrywiaeth o fydoedd. Trwy sgyrsiau hwyliog gyda'r digrifwyr mwyaf cyffrous yng Nghymru, mae Mel yn rhoi sylw i'r sîn gomedi sy'n tyfu'n gyflym, ac yn archwilio sut y gall comedi adlewyrchu a dathlu'r tapestri o brofiad dynol.