Sefyllfa y Diwydiant Cyhoeddi yng Nghymru
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Fel pob maes yn y byd celfyddydol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r diwydiant cyhoeddi yng Nghymru wedi, ac yn parhau i wynebu heriau aruthrol yn sgil toriadau cyllidebol. A dyna sydd yn cael sylw ar y rhaglen yma - sefyllfa’r byd cyhoeddi. Mae Ffion yn cael cwmni pedwar sydd yn gweithio yn y maes yma, sef Gerwyn Williams un o olygyddion creadigol Gwasg y Bwthyn, Adam Pearce sydd yn awdur ac yn berchen ar gwmni cyhoeddi annibynnol ‘Melin Bapur’, yr awdures a’r golygydd Bethan Gwanas ac Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print yng Nghaernarfon. Yn ogystal â chwmni'r pedwar yma mae Ffion hefyd yn trafod gyda Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Darllediadau
- Sul 27 Gorff 2025 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
 - Llun 28 Gorff 2025 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru