Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Cynhyrchiad Wrecslam! Hanes yr artist Eleanor Brooks a pherfformio dramâu mewn tafarndai

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Ymweliad ag ystafell ymarfer cynhyrchiad ar y cyd rhwng Theatr Cymru a Theatr Clwyd, sef Wrecslam! ar drothwy eu perfformiadau yng Nghaffi Maes B yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam.

Cawn hanes arddangsofa o waith yr artist Eleanor Brooks ym Mhlas Brondanw, Llanfrothen yn ogystal â sgwrs gyda'r actores ifanc Leisa Gwenllian wrth iddi baratoi i berfformio un o ddramâu Gary Owen mewn tŷ tafarn ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r artist Rebecca Hardy yn sôn am gystadleuthau celf newydd gan Disability Arts Cymru.

A sgwrs gyda dau o bobol prysur a chreadigol ardal Wrecsam, sef Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Wrecsam 2025, Llinos Roberts a Morgan Thomas, Cydlunydd Cais Diwylliant Wrecsam 2029.

56 o funudau

Darllediadau

  • Sul 3 Awst 2025 13:00
  • Llun 4 Awst 2025 23:00