Main content
Dyw'r rhaglen yma ddim ar gael ar hyn o bryd

Gresffordd: I'r Goleuni 'Nawr

Gwaith gan y cyfansoddwr Jon Guy a'r bardd Grahame Davies yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Glofa Gresffordd. A special commission to mark 90 years since the Gresford Disaster.

Mae 'Gresffordd - I'r Goleuni Nawr' yn addasiad ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru o waith gan y cyfansoddwr Jon Guy a'r bardd Grahame Davies ac yn nodi 90 mlynedd ers Trychineb Mwyngloddio Gresffordd (cyd-gomisiwn GGRGC).

Ar ddydd Sul 22 Medi 2024, roedd hi'n 90 mlynedd ers y trychineb tyngedfennol yng Nglofa Gresffordd, un o'r trychinebau glofaol gwaethaf yn hanes Prydain. Mae'r trychineb yn berthnasol ac yn arwyddocaol hyd heddiw, nid yn unig i bobl Wrecsam, ond i gymunedau glofaol ledled Cymru a ledled y DU. Fodd bynnag, ymhen ychydig flynyddoedd, mi fydd cof byw o'r trychineb yn cael ei ymrwymo i hanes. Mae themâu o golled, anghyfiawnder cymdeithasol, a diffyg grym, yn ogystal â buddugoliaethau dros adfyd a dathlu hunaniaeth ddiwylliannol i gyd yn ganolog i stori Gresffordd.

Rydyn ni'n dod â'r stori emosiynol hon yn fyw, mewn ffordd sy'n ysgogi sgwrs, yn dod â phobl at ei gilydd, ac yn helpu cynulleidfaoedd (o bob cornel o'n cymuned) i gysylltu stori Gresffordd â'u profiadau cyfoes eu hunain.

Perfformiadau gan Sinfonia NEW, Lleisiau NEW ac Unawdwyr.

25 o funudau

Darllediad diwethaf

Iau 31 Gorff 2025 22:35

Darllediad

  • Iau 31 Gorff 2025 22:35