Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Catrin Heledd yn cyflwyno

Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.

Yn wyneb rhyfel creulon a gormes dyddiol, mae pobl Wcrain yn troi at y pethau sy’n bwydo’r galon – barddoniaeth a chelf. Trwy eiriau a delweddau, maent yn ei weld fel ffordd o warchod eu hunaniaeth a chryfhau’r cysylltiadau sy’n uno cenedl. Dau sy'n gwybod yn iawn am sut mae barddoniaeth a chelf yn gallu bod yn arf pwerus yw Menna Elfyn a hefyd yr arlunydd Gareth Roberts.

Sgwrs gyda Laura Davies o Lanrwda, y fenyw gyntaf i hyfforddi a chael trwydded hedfan balŵn aer poeth yng Nghymru.

Ac Elin Prydderch sydd yn trafod os ydyn ni'n gallu dysgu'n hunain i fod yn hyderus, a sut mae'n gallu'n helpu ni mewn bywyd bob dydd.

1 awr

Darllediad diwethaf

Maw 26 Awst 2025 13:00