Steffan Messenger yn cyflwyno
Trin a thrafod Cymru a'r byd, gan godi'r pynciau a gofyn y cwestiynau sy'n bwysig i chi. Discussing Wales and the world.
Sgwrs gydag arwerthwr ifanc; Dafydd Davies o Ddolgellau sy'n creu dipyn o enw iddo fo'i hun yn y diwydiant.
Wedi i dechnoleg deallusrwydd artiffisial fedru creu llais newydd i glaf sydd ag MND chwarter canrif ar ôl iddi ei golli, cawn glywed am waith arloesol sydd yn digwydd ym Mhrifysgol Bangor. Hynny i gynnig llais o'r newydd i ddioddefwyr MND a chancr y gwddf trwy gyfrwng y Gymraeg yng nghwmni Dewi Bryn Jones.
Ac wrth i'r genhedlaeth hŷn gynyddu, mae'r bwlch rhwng yr hen a'r ifanc yn mynd yn fwy a sawl un yn profi rhagfarn oedran. Yn ôl gwaith ymchwil diweddar mae byd y ddawns yn gallu uno cenedlaethau, torri'r rhagfarn a bod yn llesol i'n hiechyd. Sioned Page Jones sydd yn trafod.
Darllediad diwethaf
Rhagor o benodau
Blaenorol
Nesaf
Darllediad
- Mer 27 Awst 2025 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru