Main content
Mae’n ddrwg gennym ‘dyw’r bennod yma ddim ar gael ar ÃÛÑ¿´«Ã½ iPlayer Radio ar hyn o bryd

Effaith coloneiddio, sgriptio ar gyfer Eastenders a chysylltu geiriau gyda ffotograffiaeth

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.

Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Ffion yn cael cwmni'r artist Gwenno Llwyd Till sydd yn gyfrifol am greu gofod digidol yn dathlu gwaith amrywiol artistiaid sydd wedi’u tangynrychioli yng Ngogledd Cymru.

Mae'r artist Ffion Denman wedi symud i fyw i Awstralia ac yn sgwrsio am ei gwaith celf sy'n amlygu effaith coloneiddio.

Trafod ei chyfrol newydd 'Shinani'n Siarad' mae Sharon Morgan, sef addasiad o 'The Vagina Monologues' gan Eve Ensler gafodd eu hysgrifennu a’u llwyfannu am y tro cyntaf yn 1996.

Cyfrol arall sydd yn cael sylw yw cyfrol gan y ffotograffydd ffilm Elin Gruffydd o'r enw 'Sweet Melancholy' - cyfrol sydd yn cydblethu ffotograffiaeth ffilm gyda geiriau'r artist a’r bardd Brenda Chamberlain.

Ac mae Niall Grant-Rowlands o Fangor newydd gael ei ddethol ar gyfer cynllun 'ÃÛÑ¿´«Ã½ Voices' - cynllun sydd yn rhoi hwb i yrfa sgwennu pobol o gymunedau amrywiol.

56 o funudau

Darllediad diwethaf

Llun 1 Medi 2025 18:00

Darllediadau

  • Sul 31 Awst 2025 13:00
  • Llun 1 Medi 2025 18:00