Dau gynhyrchiad theatrig newydd sbon, enillydd Medal y Dramodydd Eisteddfod Wrecsam ac Oriel Gelf Canol Cymru
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt. A look at the arts scene in Wales and beyond, presented by Ffion Dafis.
Ffion Dafis a'i gwesteion yn trafod y byd celfyddydol yn ei holl amrywiaeth, a hynny yng Nghymru a thu hwnt.
Y sylwebydd celfyddydol Elinor Gwynn sy'n trafod arddangosfa Dyfrliwiau Frenhinol Cymru yng Nghanolfan Celf Canol Cymru yng Nghaersws.
Enillydd Medal y Dramodydd, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, Greta Siôn sy'n galw heibio'r stiwdio am sgwrs.
Ac mae dau gynhyrchiad theatrig newydd sbon yn cael sylw, sef 'Pan Elo'r Adar', sy'n archwilio'r berthynas rhwng colledion byd natur ac ieithoedd lleiafrifol, a sioe gerdd am ddilyn stormydd a newid byd gan Theatr na nÓg wedi ei chyfansoddi gan Geinor Styles ac Amy Wadge.
Darllediad diwethaf
Darllediadau
- Dydd Sul 13:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru
- Dydd Llun 18:00ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru