Main content

Yn y gegin gyda Hazel Thomas

Hazel Thomas yn coginio stiw cig eidion a thwmplenni yn ei chegin ger Llanybydder.

1 pwys stêc stiwio cig eidion
1 winwns
1 moron
2-3 llwy fwrdd past tomato
1 pt stoc llysiau
pupur a halen
ewin garlleg
4 datys ffres
1-2 llwy fwrdd blawd plaen
2 haenen o pancetta wedi torri yn stribedi

Ar gyfer y twmplenni:

100g blawd codi
50g siwet llysiau
1 llwy bwdin mwstard melys perlysiau
5 llwy fwrdd dŵr
pinsiad halen

Pliciwch y moron a’r winwns ac yna torrwch y ddau i giwbiau bach.
Rhowch olew llysiau mewn sosban ar y gwres a choginiwch y moron a’r winwns nes eu bod yn meddalu ac yn amsugno’r olew ond nid yn eu lliwio. Rhowch y blawd mewn cwdyn plastig gyda’r pupur a halen a rhowch y darnau cig yn y cwdyn er mwyn gorchuddio’r cyfan yn y blawd a’r pupur a halen.
Wedi i’r llysiau gael 5 munud fach, tynnwch nhw allan o’r sosban i ddysgl, gan gadw’r sosban ar y gwres wrth wneud hynny. Defnyddiwch lwy gyda thyllau i wneud hyn fel bod yr olew yn syrthio nôl i’r sosban.
Ysgwydwch y cig yn y cwdyn cyn taflu’r cig i mewn i’r sosban i goginio.
Trowch y cig o bryd i’w gilydd rhag ofn iddo losgi, ac ar ôl cael tipyn o liw ar y cig ychwanegwch y garlleg wedi malu ac ychwanegwch y pancetta hefyd
Ychwanegwch y past tomato a chadwch droi'r cyfan rhag ofn llosgi’r cig
Ychwanegwch y stoc a’r datys wedi torri yn fân, heb y garreg wrth gwrs a’u berwi
Rhowch glawr ar y sosban a choginiwch yn araf am ryw 2.5 awr i 3 awr.

I wneud y twmplenni cymysgwch y blawd gyda’r siwet, ychwanegwch ychydig o halen, llwy bwdin o fwstard melys perlysiau a digon o ddŵr i dynnu’r cyfan at ei gilydd, digon i greu peli bach.
Cadwch y rhain ar blât (rhowch haenen o flawd ar y plât yn gyntaf) yn yr oergell nes bod eu hangen nhw.
Pan fo’r stiw bron yn barod ychwanegwch y twmplenni ar wyneb y stiw a choginio am hanner awr arall.
Gellir gweini’r stiw gyda moron vichy neu unrhyw lysiau arall o’ch dewis.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

13 o funudau

Daw'r clip hwn o