ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,12 mins

Yn y gegin gyda Hazel Thomas

Iola Wyn

Available for over a year

1 pwys stêc stiwio cig eidion 1 winwns 1 moron 2-3 llwy fwrdd past tomato 1 pt stoc llysiau pupur a halen ewin garlleg 4 datys ffres 1-2 llwy fwrdd blawd plaen 2 haenen o pancetta wedi torri yn stribedi Ar gyfer y twmplenni: 100g blawd codi 50g siwet llysiau 1 llwy bwdin mwstard melys perlysiau 5 llwy fwrdd dŵr pinsiad halen Pliciwch y moron a’r winwns ac yna torrwch y ddau i giwbiau bach. Rhowch olew llysiau mewn sosban ar y gwres a choginiwch y moron a’r winwns nes eu bod yn meddalu ac yn amsugno’r olew ond nid yn eu lliwio. Rhowch y blawd mewn cwdyn plastig gyda’r pupur a halen a rhowch y darnau cig yn y cwdyn er mwyn gorchuddio’r cyfan yn y blawd a’r pupur a halen. Wedi i’r llysiau gael 5 munud fach, tynnwch nhw allan o’r sosban i ddysgl, gan gadw’r sosban ar y gwres wrth wneud hynny. Defnyddiwch lwy gyda thyllau i wneud hyn fel bod yr olew yn syrthio nôl i’r sosban. Ysgwydwch y cig yn y cwdyn cyn taflu’r cig i mewn i’r sosban i goginio. Trowch y cig o bryd i’w gilydd rhag ofn iddo losgi, ac ar ôl cael tipyn o liw ar y cig ychwanegwch y garlleg wedi malu ac ychwanegwch y pancetta hefyd Ychwanegwch y past tomato a chadwch droi'r cyfan rhag ofn llosgi’r cig Ychwanegwch y stoc a’r datys wedi torri yn fân, heb y garreg wrth gwrs a’u berwi Rhowch glawr ar y sosban a choginiwch yn araf am ryw 2.5 awr i 3 awr. I wneud y twmplenni cymysgwch y blawd gyda’r siwet, ychwanegwch ychydig o halen, llwy bwdin o fwstard melys perlysiau a digon o ddŵr i dynnu’r cyfan at ei gilydd, digon i greu peli bach. Cadwch y rhain ar blât (rhowch haenen o flawd ar y plât yn gyntaf) yn yr oergell nes bod eu hangen nhw. Pan fo’r stiw bron yn barod ychwanegwch y twmplenni ar wyneb y stiw a choginio am hanner awr arall. Gellir gweini’r stiw gyda moron vichy neu unrhyw lysiau arall o’ch dewis.

Programme Website
More episodes