Cerdd rydd: Gwasanaeth
Â’r car dan warant, rhaid oedd mynd o’r cyrion
i berfeddle’r cwmni, nad yw’n swil –
rhwng bleinds a siwtiau glân ac arogleuon
coffi – i roi’r print mân ar ben y bil.
‘Mae’r cyfrifiadur wedi canfod nam ...’
‘Mae’r cyfrifoldeb yma i wneud y gwaith ...’
‘Ein cyfrifianell gadwith chi rhag cam ...’
… a chyfri fuwyd wrth droi’n ôl o’r daith.
Wedyn, y fan oedd fel corn niwl drwy’r fro
ond ’lawr y lôn at Twm Pant’rhwch aeth hi,
‘Y clip ecsôst ’di cancro – fawr o dro.
Mi wneith y beipan sbelan eto i chdi.’
A dyna lle’r oedd Twm, pan es i’w nôl,
yn llnau ei bympar efo’i ofarôl.
 
Myrddin ap Dafydd
9.5
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 23/06/2013
- 
                                                ![]()  Trydargerdd: Neges yn hyrwyddo ymgyrchHyd: 00:12 
- 
                                                ![]()  Cân Ysgafn: Y stafell sbarHyd: 02:50 
- 
                                                ![]()  Pennill Ymson mewn arhosfanHyd: 00:09 
- 
                                                ![]()  Englyn ar y pryd: Llyfrgell.Hyd: 00:09 
 
         
             
             
             
             
             
            