Episode details

Available for over a year
Â’r car dan warant, rhaid oedd mynd o’r cyrion i berfeddle’r cwmni, nad yw’n swil – rhwng bleinds a siwtiau glân ac arogleuon coffi – i roi’r print mân ar ben y bil. ‘Mae’r cyfrifiadur wedi canfod nam ...’ ‘Mae’r cyfrifoldeb yma i wneud y gwaith ...’ ‘Ein cyfrifianell gadwith chi rhag cam ...’ … a chyfri fuwyd wrth droi’n ôl o’r daith. Wedyn, y fan oedd fel corn niwl drwy’r fro ond ’lawr y lôn at Twm Pant’rhwch aeth hi, ‘Y clip ecsôst ’di cancro – fawr o dro. Mi wneith y beipan sbelan eto i chdi.’ A dyna lle’r oedd Twm, pan es i’w nôl, yn llnau ei bympar efo’i ofarôl.   Myrddin ap Dafydd 9.5
Programme Website