Main content
                
    Cywydd yn derbyn gwahoddiad.
Y beiciwr Geraint Thomas yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y canfed Tour de France
Byw’r ras y bûm tua’r brig
Yn barod, ac rwy’n beryg.
Wedi mynd am aur Llunden
A’i gael rhwng gwingo a gwên,
Peltio hewl y peloton
Eleni fydd f’olwynion.
A duwiau yr Alpe d’Huez
Yn taer sgyrnygu’n y tes,
Y ras fydd fy nghyffur i,
Rhamant fydd pob briw imi
Hyd y lôn, nes daw Allez
Iasol y Champs Elysées.
Huw Meirion Edwards
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 28/07/2013
- 
                                                ![]()  Pennill Ymson wrth agor post neu ebyst.Hyd: 00:21 
- 
                                                ![]()  Telyneg neu Soned: Plygu.Hyd: 00:27 
- 
                                                ![]()  Telyneg neu Soned: Plygu.Hyd: 01:04 
- 
                                                ![]()  Englyn i unrhyw gêm plant.Hyd: 00:16 
 
         
             
             
             
             
             
            