Episode details

Available for over a year
Y beiciwr Geraint Thomas yn derbyn gwahoddiad i gymryd rhan yn y canfed Tour de France Byw’r ras y bûm tua’r brig Yn barod, ac rwy’n beryg. Wedi mynd am aur Llunden A’i gael rhwng gwingo a gwên, Peltio hewl y peloton Eleni fydd f’olwynion. A duwiau yr Alpe d’Huez Yn taer sgyrnygu’n y tes, Y ras fydd fy nghyffur i, Rhamant fydd pob briw imi Hyd y lôn, nes daw Allez Iasol y Champs Elysées. Huw Meirion Edwards 9
Programme Website