Main content
CRIW'R SHIP: Telyneg (heb fod dros 18 llinell): Drain
Drain (Defnyddir Draenen Wen(Hawthorn) i wneud gwrych)
 dwy law, f’anwyliad
O raid fu’n gosod clawdd.
Plygu cain a phleth mewn tro
Bonion praff ei lafurio’n
creu campwaith o bigiadau,
Coron ar ein caeau aur.
Y gwrych yn ffin i ffynnu
a ffrwytho dro ‘rôl tro.
Cripiadau ei lafur
sy’n gwaedu’n y perthi plyg,
cartref i’r deryn du
ganu er côf eleni,
ac yno’n blaguro’i barhâd
mae plethwaith o gariad.
Nia Mon (Gwyneth Glyn yn darllen)
9
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau 06/07/2014 - Criw'r Ship yn erbyn Criw'r Llew Coch
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Beca v Crannog - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:24
-
Dwy Ochr i'r Bont v Y Tir Mawr
Hyd: 00:33
-
Penllyn v Dros yr Aber - Cerdd yr Wythnos
Hyd: 00:47