Main content
                
    Y GLÊR: Soned neu delyneg (heb fod dros 18 llinell): Seremoni
Martsia’r munudau yn araf fel mwg
o’r clochdy stond. Tros rai aeth fesul gyrr
i'r meysydd, gweddïwn nid rhag pob drwg
ond rhag bod pob diniweidrwydd mor fyr.
Carthwn y ffosydd o'r wleidyddiaeth sgrech
a'u hagorodd; nyddwn babïau punt
i wisgoedd ein plant. Diolchwn mai trech
gair na gwn; bod Awst yn lân ar y gwynt.
A dadebrwn i gyfeiliant corn gwlad
a'i ryfelgri; yn goch gan iaith plediwn
achos ein hogiau ni ar faes y gad.
Ac os felly eleni ni chroeswn,
o dan faner sy'n hanner cyhwfan,
fyth y tir neb at galon cyflafan.
Osian Rhys Jones (Eurig Salisbury yn darllen)
10
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Ffeinal y Talwrn
- 
                                                ![]()  CAERNARFON: Englyn - GweithdyHyd: 00:12 
- 
                                                ![]()  Y GLÊR: Englyn - GweithdyHyd: 00:15 
 
         
             
             
             
             
             
             
             
            