Twm Morys - Taith y Doethion
Taith y Doethion gan Twm Morys.
TAITH Y DOETHION
Mae’r Doethion yn dwad! 
Mae’r Doethiion yn dwad! 
Mae’r Doethion yn dwad o’r De. 
Ac mae’n oer ar fy llw! 
Os gwelwch chi nhw, 
Rhowch iddyn nhw fins-pei a the...
Mae’r Doethion yn dwad!
Mae’r Doethion yn dwad!
Ydi Aled Hughes yn ddyn doeth?
Mi welais i lun ofnadwy o’r dyn:
Y tu allan â’i gorun yn noeth! 
Mae’r Doethion yn dwad!
Mae’r Doethion yn dwad!
Mae Hywel Gwynfryn yn un,
Ac mae’n wyrth yn y bôn, 
Achos pwy glywodd sôn 
Am ddyn doeth o Fôn, neno’r dyn?
I’w cadw nhw’n gynnes 
Bydd un ddynes ddoeth,
A Heledd Cynwal yw honno.
A Heledd o’r Tri 
Sydd fwya’ ei bri: 
Wedi’i geni ym Methlem - Llandeilo.
Dydd Llun nesa’n y byd
Daw’r Doethion ynghyd 
I gychwyn eu siwrnai faith 
O Gaerdydd yn y De 
Drwy amal i dre 
i Fangor ar derfyn y daith. 
Mae’r Doethion yn dwad, 
Mae’r Doethion yn dwad! 
Mae’r Doethion yn dwad o’r De! 
A lle bynnag yr ân’ nhw 
Gobeithio y cân’ nhw 
Sgwrs bach a mins-pei a the!
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Taith y Doethion
- 
                                                
            Fideo: Uchafbwyntiau Taith Y Doethion
Hyd: 06:34