Episode details

Radio Cymru,1 min
Twm Morys - Taith y Doethion
Available for over a year
TAITH Y DOETHION Mae’r Doethion yn dwad! Mae’r Doethiion yn dwad! Mae’r Doethion yn dwad o’r De. Ac mae’n oer ar fy llw! Os gwelwch chi nhw, Rhowch iddyn nhw fins-pei a the... Mae’r Doethion yn dwad! Mae’r Doethion yn dwad! Ydi Aled Hughes yn ddyn doeth? Mi welais i lun ofnadwy o’r dyn: Y tu allan â’i gorun yn noeth! Mae’r Doethion yn dwad! Mae’r Doethion yn dwad! Mae Hywel Gwynfryn yn un, Ac mae’n wyrth yn y bôn, Achos pwy glywodd sôn Am ddyn doeth o Fôn, neno’r dyn? I’w cadw nhw’n gynnes Bydd un ddynes ddoeth, A Heledd Cynwal yw honno. A Heledd o’r Tri Sydd fwya’ ei bri: Wedi’i geni ym Methlem - Llandeilo. Dydd Llun nesa’n y byd Daw’r Doethion ynghyd I gychwyn eu siwrnai faith O Gaerdydd yn y De Drwy amal i dre i Fangor ar derfyn y daith. Mae’r Doethion yn dwad, Mae’r Doethion yn dwad! Mae’r Doethion yn dwad o’r De! A lle bynnag yr ân’ nhw Gobeithio y cân’ nhw Sgwrs bach a mins-pei a the!
Programme Website