Dal Dy Dir –ÌýNici Beech yn dathlu penblwydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Bangor
Cerdd gan Nici Beech, bardd preswyl mis Tachwedd, i ddathlu penblwydd ÃÛÑ¿´«Ã½ Bangor yn 80 oed.
Mae Tachwedd yma’n llawn o swyn,
â’i hîn eleni braidd yn fwyn
Drwy'r niwl ein golwg gaiff ei ddwynÌý
yn ôl i’r dechrau’n deg.
Ìý
I Fangor, a’i Chymraeg yn gry’
Bryn Meirion, noddfa’r ÃÛÑ¿´«Ã½Ìý
O ITMA hyd yr Unnos hir
Ie'n Bangor ni fu'n dal ein tir.
Ìý
Tra barodd chwerthin hyd y wlad
ein hogia bach a aeth i’r gâdÌý
A llais Myfanwy yn dweud 'nos da'
Yr unig Gymraeg â chaniatâd
Ìý
Yng ngwawr yr heddwch dros y byd
Daeth Noson Lawen â phawb ynghyd
I godi hwyl rhwng gŵyl a gwaithÌý
Yn des o adloniant gynnes glyd.
Ìý
O'r stiwdio ym Mangor i bob cyfrwng bron
Daw storis Bryn Meirion yn don ar ôl ton
Yn eiriau o gysur hogia bach
I dorri drwy niwl y Dachwedd fwyn hon.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
![]()  - Bardd y Mis: Nici Beech—Gwybodaeth- Cyfres o gerddi gan ein bardd preswyl, Nici Beech. 
![]()  - Clipiau Radio Cymru—Gwybodaeth- Uchafbwyntiau o raglenni ÃÛÑ¿´«Ã½ Radio Cymru. 
Mwy o glipiau Rhaglen Dylan Jones
- 
                                                ![]()  Rocet Arwel Jones ar raglen Dylan JonesHyd: 09:18 
- 
                                                ![]()  Dirgelwch yr WyauHyd: 01:05 
- 
                                                ![]()  Taflu paent dros Maria!Hyd: 01:47 
- 
                                                ![]()  Be well na llond bol o chwerthin?Hyd: 01:39 
 
         
             
 
 
             
             
            