Main content

Chwefror - Mair Tomos Ifans

Mis Bach, mis byr,
Mis gwên a gwewyr,
Mis Lili Wen,
Mis clyd tan garthen,
Mis y golau
A Gwyl Canhwyllau,
Mis y penblwydd,
Hen fis unigrwydd

Mis y crempog,
Mis camau ceiliog,
Mis daw eira?
Gwyl Haul y Wladfa,
Mis y cilio,
Mis o ffarwelio,
Canol Gaeaf,
Mis y wên olaf,
Mis poen calon,
Mae’n hen fis creulon
Mis Bach, mis byr -
Ond hir ei wewyr.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

44 eiliad

Dan sylw yn...

Mwy o glipiau 01/02/2016