Main content

I Al Hughes ar ôl wythnos yn y job.

I Al Hughes ar ôl wythnos yn y job.

Dewch yma fwyn wrandawyr,
Rhowch i mi’ch clustiau’n rhydd,
Mae Al Huws ’di cyrraedd,
Efe yw Llais y Dydd.

Mae’r Llais yn fwyn a pheraidd,
Llais bril-crim trwm a than,
Llais crys-gwyn a chinos
Sy’n gwneud pob merch yn wan.

Mae’r Llais ’ma yn ei elfen
Yn trafod iaith y gath,
Ac amgueddfa garthu
Na welwyd ’rioed mo’i bath.

Y Llais ’ma sydd yn tanio
Wrth drafod Cymry ddoe,
Wrth drafod helynt Tomos
A’r llygru ar ei sioe.

Mae’r Llais fel dur a melfed
Wrth weled rhai’n cael cam,
Mae’n Llais sy’n ysbrydoli,
Mae’n Llais wrth fodd fy mam.

Mae’n gallu trin yr Archers
A ffrwyno’r hen Rhys Mwyn,
A thrafod rhes o siediau,
Does neb ag unrhyw gŵyn

Ia, da chi wrandawyr,
Gwrandewch, pob Dic a Tom,
Ond cadwch draw o’r wefan
Rhag ofn i chi gael siom.

Waeth am y dur a’r melfed,
Byddwch barod i gael slap,
Mae gan y Llais ’ma locsyn!
Mae gan y Llais ’ma gap!

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud

Daw'r clip hwn o