Episode details

Available for over a year
I Al Hughes ar ôl wythnos yn y job. Dewch yma fwyn wrandawyr, Rhowch i mi’ch clustiau’n rhydd, Mae Al Huws ’di cyrraedd, Efe yw Llais y Dydd. Mae’r Llais yn fwyn a pheraidd, Llais bril-crim trwm a than, Llais crys-gwyn a chinos Sy’n gwneud pob merch yn wan. Mae’r Llais ’ma yn ei elfen Yn trafod iaith y gath, Ac amgueddfa garthu Na welwyd ’rioed mo’i bath. Y Llais ’ma sydd yn tanio Wrth drafod Cymry ddoe, Wrth drafod helynt Tomos A’r llygru ar ei sioe. Mae’r Llais fel dur a melfed Wrth weled rhai’n cael cam, Mae’n Llais sy’n ysbrydoli, Mae’n Llais wrth fodd fy mam. Mae’n gallu trin yr Archers A ffrwyno’r hen Rhys Mwyn, A thrafod rhes o siediau, Does neb ag unrhyw gŵyn Ia, da chi wrandawyr, Gwrandewch, pob Dic a Tom, Ond cadwch draw o’r wefan Rhag ofn i chi gael siom. Waeth am y dur a’r melfed, Byddwch barod i gael slap, Mae gan y Llais ’ma locsyn! Mae gan y Llais ’ma gap!
Programme Website