Main content

Cerdd i gofio encil Cristnogaeth 21

Cerdd gan Rocet Arwel Jones am brofiad gafodd e yn encil Cristnogaeth 21 yn Nant Gwrtheyrn

Cerdd gan Rocet Arwel Jones am brofiad gafodd e yn encil Cristnogaeth 21 yn Nant Gwrtheyrn -

Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw ...

Lleisiau’n trampio’i mewn i’r tawelwch
Yn chwalu cadeiriau rhydd
Mewn gofod gwyn
A fu’n gorau uniongred.

Sgrin
Yn hoelio
Sylw
Ac arni lwybr o nodau
Fel cerrig
I gamu
Dros afon.

Taro nodyn,
Taro troed
Ar y garreg gyntaf
Yn betrus,
Sigledig,
I’r nesaf
Cyn codi pen a chanu.
Pawb a’i lais a’i gân,
Yn gras, yn swil, yn betrus
Yn mentro’r nodau mân.
Nes cydio yn ei gilydd
Y naill i’r llall yn dyst,
A phedwar llais yn enfys
Mor felys ar y glust,
Yn plethu yn gynghanedd
Gyntefig, lonydd, ddofn,
Yn llifo gyda’i gilydd
Dros greigiau llithrig, ofn...

Nes cyrraedd rhyw fan tenau ...

Yn lluwch o dawelwch ...

Yn ysgafn ...

Yn drwm ...

Yn dawel ...

Dawel ...

Dawel ...

Nes daeth sŵn
A geiriau’r byd
O bell
A’u sodlau’n trampio trwy’r tawelwch,
Yn rhygnu cadair flêr ar lawr
A gollwng y gynulleidfa’n
Rhydd
Drachefn.

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

3 o funudau

Daw'r clip hwn o