Episode details

Available for over a year
Cerdd gan Rocet Arwel Jones am brofiad gafodd e yn encil Cristnogaeth 21 yn Nant Gwrtheyrn - Ble bynnag y mae cariad, yno y mae Duw ... Lleisiau’n trampio’i mewn i’r tawelwch Yn chwalu cadeiriau rhydd Mewn gofod gwyn A fu’n gorau uniongred. Sgrin Yn hoelio Sylw Ac arni lwybr o nodau Fel cerrig I gamu Dros afon. Taro nodyn, Taro troed Ar y garreg gyntaf Yn betrus, Sigledig, I’r nesaf Cyn codi pen a chanu. Pawb a’i lais a’i gân, Yn gras, yn swil, yn betrus Yn mentro’r nodau mân. Nes cydio yn ei gilydd Y naill i’r llall yn dyst, A phedwar llais yn enfys Mor felys ar y glust, Yn plethu yn gynghanedd Gyntefig, lonydd, ddofn, Yn llifo gyda’i gilydd Dros greigiau llithrig, ofn... Nes cyrraedd rhyw fan tenau ... Yn lluwch o dawelwch ... Yn ysgafn ... Yn drwm ... Yn dawel ... Dawel ... Dawel ... Nes daeth sŵn A geiriau’r byd O bell A’u sodlau’n trampio trwy’r tawelwch, Yn rhygnu cadair flêr ar lawr A gollwng y gynulleidfa’n Rhydd Drachefn.
Programme Website