Cerdd John Gwilym Jones, 'Pentecost Iesu'
Cerdd Bardd y mis John Gwilym Jones i'r Pentecost
Pentecost Iesu
Yn Jerwsalem ein heddiw ni
clywir côr o ieithoedd:
clywn dafodiaith y di-ffydd
a geiriau esmwyth y glastwryn glwth.
Parabl y di-dduw a’r di-ddim,
a lleferydd yr amheuwr a’r sinic a’r penboeth gwyllt.
Ac yn y carbwl llafar hwn
mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu,
a’u llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin.
Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau.
Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg,
a’r Bwdydd ei fyfyr, a’r Hind^w ei berlewyg.
Ninnau yn ein Salem a'n Soar,
yn Annibynwyr chwyrn,
y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt;
ym Methel y pentre nesaf
clywn acenion pêr eu Presbyteriaeth,
a chan deyrngarwyr capel Ainon
eu deddfol ddefodol fedydd.
A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy ymhlith y lleisiau,
a suddo’n ddyfnach i’r lluniau bach ar eu sgrin gyfrin.
Ond yna ryw ddydd daw’r Ysbryd
i ffrwydro â’i dân drwy’r pedlera a’r ddogma ddall,
gan roi inni ei iaith newydd.
Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud;
iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau.
Enwau a fydd yn dugaredd, ansoddeiriau maddeuant,
idiomau gras a chymwynas, a berfau'n gyhyrog gan gariad.
Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall,
Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau
a ffoaduriaid y pebyll pell.
Canys iaith Iesu yw hon, a daw'n plant i'w deall,
petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Dan sylw yn...
John Gwilym Jones - Bardd Mis Mai 2016—Gwybodaeth
Cerddi John Gwilym Jones ar gyfer Mai 2016.