Episode details

Available for over a year
Pentecost Iesu Yn Jerwsalem ein heddiw ni clywir côr o ieithoedd: clywn dafodiaith y di-ffydd a geiriau esmwyth y glastwryn glwth. Parabl y di-dduw a’r di-ddim, a lleferydd yr amheuwr a’r sinic a’r penboeth gwyllt. Ac yn y carbwl llafar hwn mae clustiau plant ein strydoedd yn drysu, a’u llygaid ar y lluniau yn eu sgrin fach gyfrin. Gwaeth fyth yw hi ym Mhentecost ein crefyddau. Bydd gan y Mwslim ddirgel fantra yn ei blyg, a’r Bwdydd ei fyfyr, a’r Hind^w ei berlewyg. Ninnau yn ein Salem a'n Soar, yn Annibynwyr chwyrn, y mae gennym ninnau ein cystrawen dwt; ym Methel y pentre nesaf clywn acenion pêr eu Presbyteriaeth, a chan deyrngarwyr capel Ainon eu deddfol ddefodol fedydd. A bydd plant ein strydoedd yn drysu mwy ymhlith y lleisiau, a suddo’n ddyfnach i’r lluniau bach ar eu sgrin gyfrin. Ond yna ryw ddydd daw’r Ysbryd i ffrwydro â’i dân drwy’r pedlera a’r ddogma ddall, gan roi inni ei iaith newydd. Iaith y gwneud fydd hon, nid iaith y dweud; iaith y ffydd, nid iaith y duwiol gredoau. Enwau a fydd yn dugaredd, ansoddeiriau maddeuant, idiomau gras a chymwynas, a berfau'n gyhyrog gan gariad. Hon yw iaith yr actau tosturiol y bydd pawb yn ei deall, Parthiaid a Mediaid ac Elamitiaid y cychod brau a ffoaduriaid y pebyll pell. Canys iaith Iesu yw hon, a daw'n plant i'w deall, petaem ni ond yn dechrau ei siarad hi.
Programme Website