Main content

Allez Aled!!!

Bydd Cymru gyfan megis Ffrainc
Yn peintio’r ffyrdd a gweiddi
dros grys mwy melyn na chrys Chris Froome -
Aled mewn dillad Pudsey.

Fel gwraig i feiciwr nodaf hyn -
rheolau aur rhag helbulon
Ti angen clwt a Vaseline
Neu dy din fydd yn grybibion!

Cadwa linynnau dy forddwyd yn dwym
Cer a digon o ddiod oer melys,
Losin, a fferins a da da da
i bob tyle a rhiw ag Alltwalis.

Mi gymrith amser i wisgo’n iawn
A gwasgu mewn i’r leicra
A’r pants, a’r bibs a’r menyg a'r het a’r helmed y sana a’r sgidia...

Ond paid prynu dillad sy rhy dynn
Neu byddi di’n canu tenor
A cofio bod dy draed yn sownd i’r beic
Nei mi fyddi di ar dy ochr!

Cofia wrando ar Rhian Haf
yn dy dywys drwy niwloedd Corris
drwy eira oer i Ben y pas
a heulwen dragywydd fy ynys (Môn)...

Ond heb os y peth pwysicaf yw,
cadw un yn hapus -
Sêl bendith Mrs Huws sydd ben
Y hi sy’n gwisgo’r trowsus.

Ond codi arian ydy’r nod
Felly deuwch oll i wylio
A thaflu ceiniog ddwy neu dair
I Aled wrth wibio heibio...

Dyddiad Rhyddhau:

Hyd:

1 funud