ÃÛÑ¿´«Ã½

Use ÃÛÑ¿´«Ã½.com or the new ÃÛÑ¿´«Ã½ App to listen to ÃÛÑ¿´«Ã½ podcasts, Radio 4 and the World Service outside the UK.

Episode details

Radio Cymru,1 min

Allez Aled!!!

Aled Hughes

Available for over a year

Bydd Cymru gyfan megis Ffrainc Yn peintio’r ffyrdd a gweiddi dros grys mwy melyn na chrys Chris Froome - Aled mewn dillad Pudsey. Fel gwraig i feiciwr nodaf hyn - rheolau aur rhag helbulon Ti angen clwt a Vaseline Neu dy din fydd yn grybibion! Cadwa linynnau dy forddwyd yn dwym Cer a digon o ddiod oer melys, Losin, a fferins a da da da i bob tyle a rhiw ag Alltwalis. Mi gymrith amser i wisgo’n iawn A gwasgu mewn i’r leicra A’r pants, a’r bibs a’r menyg a'r het a’r helmed y sana a’r sgidia... Ond paid prynu dillad sy rhy dynn Neu byddi di’n canu tenor A cofio bod dy draed yn sownd i’r beic Nei mi fyddi di ar dy ochr! Cofia wrando ar Rhian Haf yn dy dywys drwy niwloedd Corris drwy eira oer i Ben y pas a heulwen dragywydd fy ynys (Môn)... Ond heb os y peth pwysicaf yw, cadw un yn hapus - Sêl bendith Mrs Huws sydd ben Y hi sy’n gwisgo’r trowsus. Ond codi arian ydy’r nod Felly deuwch oll i wylio A thaflu ceiniog ddwy neu dair I Aled wrth wibio heibio...

Programme Website
More episodes